Pam Gopr? - Mynydd Parys
Ystyrid Amlwch unwaith gan gartograffydd a swyddog tollau lleol o’r ddeunawfed ganrif, fel lle nad oedd yn haeddu cael ei gynnwys ar fap o borthladdoedd cysgodol ar gyfer llongau a morwyr gan nad oedd ond "cilfach syml rhwng dwy graig".

Newidiodd Rowland Puw, mwynwr lleol hynny, gan iddo yntau fel y Rhufeiniaid o’i flaen, ddarganfod haen gopr gerllaw ym Mynydd Parys. Bu “darganfyddiad” Mr Puw yn gyfrifol am wneud Amlwch am gyfnod byr a thanbaid yn y ddeunawfed ganrif, yn un o brif safleoedd mwyngloddio pwysicaf y byd. Gwobrwywyd ef am ei fenter gyda photel o wisgi a llety am ddim.
Yn naturiol fe wnaeth cyfreithiwr lleol, yr entrepreneur Thomas Williams, a adweinid fel “Tom Chware Teg” dipyn yn well na Mr Puw.
Roedd angen copr ym mhobman. Roedd y chwyldro diwydiannol ar droed, roedd arian yn cael eu bathu ac roedd Nelson angen gorchuddion copr i’w longau. Roedd cymaint â 40 o gargo copr mewn llongau cario dail tybaco yn gallu bod wedi eu hangori yn Amlwch, a chymaint oedd y dagfa fel y pasiwyd Deddf Seneddol i ehangu mynediad a maint angorfa Amlwch. Roedd y “gilfach syml rhwng dwy graig” bellach ar bob map morol.
Tarddiad y copr oedd Mynydd Parys, lle’r oedd ryw 1500 o ddynion a merched yn cael eu cyflogi dan amgylchiadau peryglus. Roedd y dynion yn cloddio am y copr a’r “Boneddigesau Copr” y golchi’r mwyn.
Mae etifeddiaeth oes gopr Amlwch yn goch llachar, oren a phorffor ar dirwedd lleuad Mynydd Parys. Mae bellach yn denu ymwelwyr a chyfarwyddwyr ffilm - mae’n lleoliad afreal, ac mae hanes anhygoel Amlwch yn cael ei adrodd yng nghanolfan arddangos yr hen Lofft Hwylio. Neu’n syml, cerddwch y llwybr treftadaeth.






