Gŵyl Gopr 2008
Daeth y gloddestwyr dewr yn eu miloedd i fod yn rhan o Gwylgopr 2008 er gwaetha’r gwynt a glaw trwm. Cynhaliwyd ein gŵyl rhad ac am ddim ym Mhorth Amlwch ar ŵyl y banc unwaith eto. Daeth mwy na 3500 o bobl i wylio Bryn Fôn, Frizbee, Transmission, Transit, Chwarter Call a Long Shot.
Daeth 2500 arall i wylio sioe nos Sul gyda Celt, Steve Eaves, Meinir Gwilym, The Coffin Dodgers a’r Bootleggers. Daeth mwy na 1000 o bobl i wylio amrywiaeth o dalent leol ar y nos Wener, a ninnau wedi disgwyl noson ddistaw. Cawsom ein siomi ar yr ochr orau gyda’r niferoedd o bobl drwy’r penwythnos cyfan i fod yn onest, nifer wnaeth ragori ar y llynedd yn braf.
Gosododd y cyflyrau tywydd farc cwestiwn ar gynnal yr ŵyl, ond tyrrodd y trefnwyr, y cynorthwywyr a’r gymuned at ei gilydd i sicrhau fod y sioe yn mynd yn ei blaen.
Ni fyddem wedi gallu cyflawni dim heb gymorth a chefnogaeth pob busnes lleol wnaeth noddi’r digwyddiad, yn enwedig ein prif noddwyr, Magnox y Gogledd Safle Wylfa, MAD Sound and Lighting, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Cymunedau’n Gyntaf Amlwch.
Mae hi’n mynd i fod yn anodd iawn i godi’r safon y flwyddyn nesaf. Mi fydd y disgwyliadau’n uchel iawn ar ôl llwyddiant yr ŵyl eleni!

Gwyl Gopr Amlwch 2008 - Cerddoriaeth yn Amlwch
Nos Wener 22 Awst 2008
*** Mynediad am ddim***
Bandiau ac artistiaidd lleol
Nos Sadwrn 23 Awst 2008
*** Mynediad am ddim***
Bryn Fôn a`r Band
Frizbee
Transmission
Transit
Chwarter Call
Komancheros
Long Shot
Nos Sul 24 Awst 2008
*** Mynediad am ddim***
Celt
Steve Eaves a'r Band
Meinir Gwilym
Sian James
Gareth & Rhys
The Bootleggers
The Coffin Dodgers
The Holy Mountain Boogie Men
Frizbee
Transmission
Transit
Chwarter Call
Komancheros
Long Shot
Nos Sul 24 Awst 2008
*** Mynediad am ddim***
Celt
Steve Eaves a'r Band
Meinir Gwilym
Sian James
Gareth & Rhys
The Bootleggers
The Coffin Dodgers
The Holy Mountain Boogie Men





