Cysylltwch a ni ...Gŵyl Gopr Amlwch 01407 831599 - 01407 831754 neu e-bost yma

[ Click here ] for an English version of our website [ English ]

 
 

Gŵyl Gopr 2007


24 a 25 Awst 2007 - Roedd trefnwyr Copperfest wrth eu boddau â’r ymateb a gafwyd i’w cymysgfa o gerddoriaeth a hwyl. Dywedodd y trefnwyr ‘Roedd yn wych edrych allan o’r llwyfan a gweld cymaint o bobol wrth eu boddau - dim ond môr o wynebau’n gwenu roeddem ni’n ei weld. Frizbee - Gŵyl Gopr 2007Pan wnaethon ni benderfynu trefnu’r ŵyl, fe welwyd cyfle i gael parti mawr, dod â phobl i mewn i Amlwch a chael cymaint o hwyl’. Erbyn nos Sadwrn, amcangyfrifwyd fod cynulleidfa o tua 1500 yno - llawer mwy na’r hyn a ddisgwyliwyd, a daeth dros 2000 yn ystod y penwythnos.

Daeth y penwythnos i ben nos Sadwrn gyda pherfformiad bywiog gan Celt - bu’n benwythnos o berfformiadau amrywiol gan grwpiau o The Banjo Brothers i’r grŵp Cymraeg poblogaidd Frizbee. Roedd Baloo’s Band ar eu gorau yn chwarae cymysgfa o R’n’B a’r blues. Dywedodd y trefnwyr ‘Roeddem ni eisiau gwneud hon yn ŵyl i bawb - roeddem ni eisiau i bawb glywed rhywbeth roedden nhw yn ei fwynhau - p’run ai eu bod yn ffans o gerddoriaeth Gymraeg neu Saesneg, yn hen neu’n ifanc’. Bwriadwyd cynnal yr ŵyl er mwyn codi arian ar gyfer Gŵyl Llychlynwyr y flwyddyn nesaf, ond nawr efallai y daw yn ddigwyddiad blynyddol ar ei ben ei hun gyda threfnwyr yn addo ystyried y nifer o geisiadau gan bobol leol i drefnu bob dim eto'r flwyddyn nesaf. Am mwy o luniau, ewch i'r oriel yn fyma

24 a 25 Awst 2007

Bandiau nath chwarae yr Ŵyl 2007..........


Celt
Frizbee
Baloo's Band
Red Nature

ewch i'r oriel yn fyma

Prif Noddwyr 2009


Glyn Jones - Plasterers

Glyn Jones - Plasterwr
Yn falch o gefnogi'r Ŵyl Gopr ym Mhorth Amlwch

Energy Solutions - Wylfa Site

Energy Solutions - Safle Wylfa
Yn falch o gefnogi'r Ŵyl Gopr ym Mhorth Amlwch

babcock Defence Services - RAF Valley

Babcock Defence Services - Valley
Yn falch o gefnogi'r Ŵyl Gopr ym Mhorth Amlwch

MAD Sound and Lighting

Cwmni Sain a Goleuo MAD
Yn falch o gefnogi'r Ŵyl Gopr ym Mhorth Amlwch

Adelphi Vaults - Porth Amlwch

Adelphi Vaults - Porth Amlwch
Yn falch o gefnogi'r Ŵyl Gopr ym Mhorth Amlwch

Isle of Anglesey County Council

Cyngor Sir Ynys Mon -
Yn falch o gefnogi'r Ŵyl Gopr ym Mhorth Amlwch